Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol 
  
 
  

 

 


Cofnodion cyfarfod:

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Heddwch a Chymod

 

Dyddiad y cyfarfod:

19/12/2024

Lleoliad:

Zoom

Yn bresennol:

Enw:

Enw:

 Mabon ap Gwynfor (Cadeirydd)

 

Carolyn Thomas

Jane Dodds

Eleri Griffiths (Swyddfa Heledd Fychan)

 

 Bethan Siân Jones (Academi Heddwch Cymru / Ysgrifennydd)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymddiheuriadau:

Enw:

Teitl:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Crynodeb o'r cyfarfod:

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Aelodau o’r Senedd yn unig, ynghyd ag Ysgrifennydd a ddarparwyd gan Academi Heddwch Cymru (AHC), yn sicrhau bod y Grŵp Trawsbleidiol yn parhau.

– Cafodd MaG ei ailethol yn Gadeirydd.

– Cafodd CT ei hailethol yn Is-Gadeirydd.

– Cafodd sefydliad AHC ei ailethol yn Ysgrifenyddiaeth.

– Nododd MaG y cyfnod cythryblus sydd ar ein gwarthaf mewn perthynas â gwrthdaro byd-eang, gan ailadrodd y ffaith ei bod yn bwysig bod y grŵp hwn yn parhau.

Adroddiad gan Academi Heddwch Cymru: Cymru fel Cenedl Heddwch (2024)

– Rhoddodd BSJ gyflwyniad ar waith AHC, gan gynnwys diweddariad ar yr adroddiad a gwblhawyd yn ddiweddar, sef Cymru fel Cenedl Heddwch (Wales as a Nation of Peace) (2024). Cafodd yr adroddiad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Ei nod yw tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gweithredu ar draws sefydliadau yng Nghymru at ddibenion ymgorffori’r broses o feithrin heddwch yn y gwaith o gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – yn benodol, creu Cymru lewyrchus, Cymru fwy cydnerth, Cymru iachach a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

– Bydd yr adroddiad hefyd yn cyfrannu at y broses o hwyluso deialog genedlaethol ynghylch sut i sicrhau bod Cymru yn gallu datblygu fel Cenedl Heddwch ac yn gallu cyfrannu at y weledigaeth o greu byd heb ryfel.

– Y cam nesaf yw trefnu bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyfieithu a'i gyhoeddi gan AHC. Awgrymodd BSJ y byddai cyfle, yn dilyn y broses honno, i drefnu cyflwyniad a thrafodaeth ar yr adroddiad yn y Grŵp Trawsbleidiol rywbryd yn 2024.

– Roedd yr awgrym hwn yn dilyn cyfres o syniadau, megis cynnal digwyddiad penodol yn y Senedd mewn perthynas â’r adroddiad dan sylw, sef Cymru fel Cenedl Heddwch; pasio cynnig arno; a/neu gynnal trafodaeth arno yn y Senedd. Awgrymwyd cyfres o ddyddiadau a fyddai’n cyd-fynd â’r camau gweithredu yn y Senedd ynghylch yr adroddiad, gan gynnwys Diwrnod Rhyngwladol Cydfyw mewn Heddwch ar 16 Mai (naill ai ar y dyddiad hwnnw neu yn ystod yr wythnos honno).

GWEITHREDU – BSJ i siarad â bwrdd AHC a llunio llinell amser ar gyfer digwyddiadau sy’n gysylltiedig â'r adroddiad (cyfieithu, cyhoeddi ac ati). BSJ i fwydo’r wybodaeth hon yn ôl i’r Grŵp Trawsbleidiol fel y gellir gwneud penderfyniadau ynghylch gweithgareddau’r Senedd mewn perthynas â’r adroddiad yn fuan.